Popeth y byddwch angen ei wybod am Gŵyl Gobaith 2011, y pethau y bydd angen i chi ddod gyda chi, a sut i gyrraedd y maes ar y diwrnod. Gwelwch y dudalen lleoliad i weld y map.
Mi fydd maes y cyngerdd yn agor i’r cyhoedd am 4.30yp ar bob un o’r tri diwrnod. Mi fydd adloniant ar gael o 6.00yh cyn i’r cyngerdd ddechrau. Mae croeso i chi gyrraedd yn fuan i gael picnic yn y parc. Mi gewch ddod a picnic eich hun neu mi fydd amrywiaeth o stondinau gan fusnesau lleol yn gwerthu bwyd. Mae bar ar gael ar y maes hefyd. Mi gewch ddod a dodrefn picnic eich hun ond nodwch na fydd gasebos yn cael eu caniatáu.
Pob hyn a hyn mae tywydd garw yn effeithio ar ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal tu allan. Bydd unrhyw benderfyniad i ddileu’r cyngerdd yn cael ei wneud ar yr amser mae’r digwyddiad wedi cael ei hysbysu i ddechrau. Ni fydd ad-daliadau yn cael eu gwneud os ydi’r cyngerdd wedi dechrau ac yna yn cael ei ddileu.
Roedd yr holl fanylion yn gywir pan gaeth ei gynnwys ond nodwch y gall yr artistiaid neu’r rhaglen newid o ganlyniad salwch neu ddigwyddiad arall anochel. Mae pob cyngerdd o dan drwydded.
Lleoliad
Eleni rydym wrth ein boddau bod yr ŵyl yn cael ei gynnal yn amgylchedd hardd a delfrydol Coleg Llaneurgain, Coleg Glannau Dyfrdwy a Phrifysgol Glyndŵr (Coleg Garddio Cymru, Llaneurgain gynt). I cael gwybodaeth manwl am y lleoliad, gwelwch y map rhyngweithiol. Mae maes yr ŵyl y tu cefn i’r coleg.
Bwyd ar faes yr ŵyl
Bydd amrywiaeth o fwydydd ar gael ar faes yr ŵyl yn cynnwys:
sfs arlwyo digwyddiadau cyf
Dros yr 8 mlynedd diwethaf rydym wedi arlwyo yn y rhan fwyaf o’r digwyddiadau mawr yng Nghymru. Eleni rydym yn falch o fod yn Gŵyl Gobaith gan obeithio y dewch i’n gweld i drio ein pysgod a sglodion, nwdls wedi ffrio, crempogau, coffi ffres a Pimms.
Siop Siocled Dinbych
Pwdin stem siocled tywyll gyda saws siocled chwaethus
Pwdin taffi gludiog gyda saws menyn cyflaith llyfn
Pwdin stem sinsir gyda surop a saws lemon a sinsir
Mr Olives
Mi gewch drio ein nwyddau Canoldirol cyn eu prynu, olewydd, cnau, baclafa a licris.
Pantri’r llety
Cwmni teuluol o Dyffryn Clwyd yn cynnig cig cartref i greu selsig, byrgyrs a chig wedi rostio gorau, rydym hefyd yn gwerthu tatws pob.
Grandad Sweets – Fferins Taid
Amrywiaeth o fferins, popgorn, candi-fflos a ‘pic a mics’
Cwestiynau a ofynnir yn aml:
- Oes yna barcio i’r anabl?
- Oes bwyd ar gael ar y maes?
- Oes gwin ar gael ar y maes?
- Cawn ddod a diodydd ein hunain ar y maes?
- Ble mae’r orsaf drenau agosaf?
- Pa mor bell ydi’r maesydd parcio o’r ŵyl?
- Oes mynediad i gadeiriau olwyn?
- Oes yna doiledau ar y maes?
- Faint o’r gloch fydd yr ŵyl yn gorffen?
- Oes yna le o dan do?
- Ydi gasebos yn cael eu caniatáu?
- Oes yna gludiant cyhoeddus i’r maes?
- Oes seti ar gael?
- Fydd arwyddion clir i weld i gyrraedd y maes?
- Oes rhywle i barcio carafan ar y maes?
Oes yna barcio i’r anabl?
Oes, yn agos iawn i fynedfa’r ŵyl.
Oes bwyd ar gael ar y maes?
Mi fydd amrywiaeth o stondinau gan fusnesau lleol yn gwerthu bwyd.
Oes gwin ar gael ar y maes?
Mi fydd gwin ar gael i’w brynu ar y maes.
Cawn ddod a diodydd ein hunain ar y maes?
Cewch, ond ni ganiateir gwydrau yfed ar y maes.
Ble mae’r orsaf drenau agosaf?
Fflint – 3 milltir gyda tacsis ar gael.
Pa mor bell ydi’r maesydd parcio o’r ŵyl?
Yn y cae drws nesa, o fewn 10 munud o gerdded ar y mwyaf.
Oes lle i barcio carafan ar y maes?
Oes, mae lle i 25 carafan am £15 am y tri noson. I gadw lle cysylltwch a Arwel Hughes Rheolwr y Maes ar 07768860961..
Mae cawodydd a thoiledau ar gael on does dim trydan ar y maes carafan.
Bydd y maes campio yn agor am 12.00yp ar ddydd Gwener y 26 o Awst a rhaid mynd i swyddfa’r maes i gael eich rhif parcio carafan.









