Hospitality

Lluniaeth Corfforedig

Mae Gŵyl Gobaith Music Festival yn cynnig profiad gwefreiddiol, llawn hwyl unigryw mewn lluniaeth corfforedig, nid yn unig ydi o’n gyfle i godi arian ar gyfer achosion da ond hefyd yn cynnig profiad i’n gwestai fwynhau bwyd gan gynhyrchwyr lleol ac adloniant o’r safon ryngwladol uchaf.

Fel rhan o’r lluniaeth corfforedig, ar gyrraedd y maes byddwch yn cael eich arwain i faes parcio arbennig eich hunain sydd wedi ei leoli yn agos at y babell. Bydd gwin pefriol a canapés yn cael eu gweini pan y byddwch yn cyrraedd y babell, a fydd wedi ei addurno’n foethus, i roi cyfle i bawb gael sgwrs a chyfarfod eu gilydd.

Ar ôl y gwin pefriol a canapés bydd gwestai yn cael eu gwahodd i gymeryd eu seddau lle bydd pryd blasus wedi ei baratoi ar eich cyfer (cliciwch am y fwydlen [PDF, 32kb]) gyda gwin gwyn a coch. Bydd ocsiwn a raffl yn cael ei gynnal yn ystod y pryd bwyd gyda gwobrwyon a phrofiadau anhygoel, gyda’r arian a godir yn mynd at yr elusen sydd wedi e ddewis ar gyfer y noson.

Ar ôl y lluniaeth yn y babell byddwch chi a’ch gwestai yn cael eich arwain i’r seti blaenoriaeth, gyda golygfa wych o’r llwyfan, ac mi gewch fwynhau’r adloniant anhygoel.

Mae bar preifat a thoiledau moethus ar gael ar gyfer gwestai y Lluniaeth Corfforedig yn unig.

Prisiau’r Bwrdd: £100 (+ TAW) pob person neu bwrdd o 10 am £1000 (+ TAW). Rydym yn hapus i greu pecynnau i siwtio eich anghenion arbennig a bydd pob angen dietegol yn cael ei weini ar ei gyfer.

Cysylltwch a corporate@gwylgobaith.org ar 01824 705290 neu Symudol: 07778 111463 i gadw lle wrth ein byrddau ac i drafod sut y gallwn wneud y noson yn un arbennig iawn i chi.