Info

Amdanom Ni

Caiff Gŵyl Gobaith ei chynnal dros gyfnod o dridiau a’r canwr opera rhyngwladol, Rhys Meirion, yw’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’r digwyddiad. Fe’i cynorthwyir gan bwyllgor a thîm o wirfoddolwyr ymroddedig.

Diben gwreiddiol yr ŵyl oedd hyrwyddo cerddoriaeth yn Sir y Fflint a’r tu hwnt a chodi arian i elusennau lleol.

Caiff ei chynnal ar dir Coleg Glannau Dyfrdwy a Phrifysgol Glyndŵr, Llaneurgain.

Y pobl tu ôl i’r ŵyl

Rhys Meirion – Cadeirydd a Chyfarwyddwr Artistig

Y gobaith yw y bydd Gŵyl Gobaith Music Festival yn tyfu ac yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf i fod yn un o brif ddigwyddiadau diwyllianol Prydain. Y NI fydd yn berchen arno. Gyda’r NI yma rwyf yn golygu pobl Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr. Fe allwn gael amser gwerthchweil gyda cherddoriaeth gwerthchweil tra’n codi arian i elusenau gwerthchweil.

Paul Hinchliffe – Is Gadeirydd

Dyma fy ngwyl cyntaf fel Is Gadeirydd ac rwyf yn edrych ymlaen yn fawr i weld yr holl waith caled gan y pwyllgor a’r partneriaid yn dod i wireddiad. Bum yn helpu Gŵyl Gobaith y llynedd, tra’n gweithio gyda Coleg Glannau Dyfrdwy, a cefais fy ysbrydoli i gario ymlaen fel aelod o’r pwyllgor ar ol gweld mwynhad y cynulleidfaoedd a ddaeth i’r wyl. Mae amcanion elusenol yr Wyl yn bwysig iawn i mi ac rwyf wrth fy modd gyda’r artistiaid sydd am ein helpu i godi arian ar gyfer yr achoseuon da, CLIC Sargent yn helpu plant a phobl ifanc gyda Cancr, Uned Gancr Ysbytu Glan Clwyd ac Ambiwlans Awyr Cymru.

Partners:

Rick Bedson – Coleg Glannau Dyfrdwy

Rwyf yn cynrychioli Coleg Glannau Dyfrdwy ar y pwyllgor i helpu’r wyl wneud yr hynny a allent o adnoddau Coleg Llaneurgain.

Paul Lewis – Prifysgol Glyndŵr

Mae Prifysgol Glyndŵr wrth ei bodd cael Gŵyl Gobaith ar ei thir yn Llaneurgain. Rwyf am helpu’r wyl ddefnyddio’r maes yn effeithiol.

Ann Williams – Clwyd Theatr Cymru

Fel y cyswllt rhwng Clwyd Theatr Cymru a Gŵyl Gobaith rwyf wedi cael yr anrhydedd o gynghori’r pwyllgor ar gyfleoedd partneriaeth marchnata gyda’r Theatr a helpu i osod system gwerthu tocynau gyda ein rheolwr gwerthu tocynnau.

Gwenno Jones – Cyngor Sir y Fflint

Mae Gŵyl Gobaith, ers y digwyddiad cyntaf un yn 2009, wedi bod yn uchafbwynt yn fy mlwyddyn gwaith. Rwyf wedi fy ysbrydoli gan y brwdfrydedd a’r ymroddiad gan bawb sydd yn trefnu’r ŵyl, mae’r digwyddiad yn ddiemwnt bendigedig yn rhaglen ddiwylliannol Sir y Fflint. Rwyf yn gobeithio bod yn rhan o ddatblygiad Gŵyl Gobaith dros y blynyddoedd nesaf.

Arwel Hughes – Mad Sounds and Lighting

Mae’r math yma o wyl yn werthchweil ac yn sialens personol i mi i gyd drefnu a chynllunio’r maes. Does dim teimlad gwell na pan dwi’n gweld pobl yn mwynhau eu hunain. Mae pwyllgor yr wyl yn gasgliad brwdfrydig a gweithgar o bobl sydd yn gyrru ymlaen i godi arian ar gyfer yr achosion da.

Pip Cockeram – Marchnata

Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda Gŵyl Gobaith i helpu farchnata’r wyl eleni. Mae’r ser sydd am gymeryd rhan yn anhygoel ac rwyf am sicrhau bod pawb yng Ngogledd Cymru, ac ymhellach, yn ymwybodol o’r wyl yma na ddylent ei methu.

The Committee:

Huw Howatson – Rheolwr y Maes

Dyma fy nhrydedd flwyddyn fel rheolwr y maes ar gyfer Gŵyl Gobaith ac mae ganddi le arbennig iawn yn fy nghalon. Byddaf yn gweithio’n ddibaid gyda Arwel a Richard i sicrhau bod yr ymwelwyr i’r wyl yn cael profiad anhygoel.

Christine Howatson – Lluniaeth Corfforaethol

Mae’n bleser mawr genyf fod yn rheoli’r profiad lluniaeth corfforaethol i’n ymwelwyr eleni. Mi fyddaf yn rhoi fy oll i sicrhau bod pawb sydd yn ymweld a’r babell lluniaeth yn cael profiad anhygoel.

Ann Marie Hindle – Datblygu Cynulleidfaoedd

Rwyf wedi helpu Gŵyl Gobaith ddatblygu ei chynulleidfaoedd dros y blynyddoedd dwethaf ac mae’n bleser mawr gennyf weld yr wyl yn mynd o nerth i nerth.

David Rees – Trysorydd

Fi ydi’r aelod o’r pwyllgor sydd yn gyfrifol am werthu tocynnau a rhaglenni ar y maes. Roedd y llynedd yn brofiad gwerth chweil ac rwyf yn edrych ymlaen yn fawr i gyfarch ein ymwelwyr brwdfrydig eto eleni.

Richard Jones – Prif Stiward

Dyma fy ail flwyddyn fel prif stiward yr wyl yn rheoli’r holl bobl sydd yn rhoi o’u amser i sicrhau bod yr Gŵyl Gobaith yn rhedeg yn esmwyth, gosod y maes yn ei le o flaen llaw, sicrhau bod y gynulleidfa yn cael profiad saff ac wrth eu boddau ac wrth gwrs y clirio mawr ar ol yr wyl. Ni allem fynd yn ein blaenau heb holl gymorth ac amser mae’r bobl lleol yn ei roi.

Ann Jones – Ysgrifennydd

Fy swydd ar y pwyllgor yw recordio pob trafodaeth, ac wrth gwrs i gadw pawb o dan reolaeth. Byddaf hefyd eleni yn trefnu’r gystadleuaeth ‘Ffenestr gerdd’ ar gyfer canol tref Yr Wyddgrug sydd am ein helpu i farchnata’r wyl arbennig yma.