Rhydian Roberts
Rhydian Roberts
Elysium III
Elysium III
Mike Doyle
Mike Doyle
Three Welsh Tenors
Three Welsh Tenors
Escala
Escala
Natasha Marsh
Natasha Marsh
Only Men Aloud
Only Men Aloud
John Owen Jones
John Owen Jones
Mark Evans
Mark Evans
only-boys-aloud
Only Boys Aloud

Tair noson gyda cherddoriaeth o fri rhyngwladol. Tri achos gwerthchweil.

Mae Gŵyl Gobaith yn denu artistiaid enwocaf Cymru i Sir y Fflint. Rhydian Roberts, a ddaeth i amlygrwydd ar raglen X Factor, Tri Tenor Cymru a chôr Only Men Aloud fydd y prif atyniadau yn yr ŵyl eleni a gaiff ei chynnal dros gyfnod o dridiau ar gampws Coleg Llaneurgain ar 26, 27 a 28 Awst.

Caiff Gŵyl Gobaith ei chynnal dros gyfnod o dridiau a’r canwr opera rhyngwladol, Rhys Meirion, yw’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’r digwyddiad. Fe’i cynorthwyir gan bwyllgor a thîm o wirfoddolwyr ymroddedig. Diben gwreiddiol yr ŵyl oedd hyrwyddo cerddoriaeth yn Sir y Fflint a’r thu hwnt gan godi arian i elusennau lleol.

 

Tocynnau Cyngerdd Nos Wener

Ni fydd posib prynu tocynnau ar gyfer cyngerdd nos Wener o swyddfa docynnau Clwyd Theatr Cymru ar ol 4.00yp ar ddydd Gwener y 26 o Awst. Bydd tocynnau sydd wedi eu harchebu rhwng dydd Mercher y 24 a dydd Gwener y 26 o Awst ar gael i’w nol o swyddfa docynnau Clwyd Theatr Cymru cyn 4.30yp ar y dydd Gwener, fel arall byddent ar gael o’r swyddfa docynnau ar faes yr ŵyl ar ol 5.00yp. Bydd tocynnau ar gael i’w prynu fynediad i’r maes.

Tocynnau Cyngerdd Nos Sadwrn a Nos Sul

Ni fydd posib prynu tocynnau ar gyfer cyngerdd nos Sadwrn a nos Sul o swyddfa docynnau Clwyd Theatr Cymru ar ol 4.00yp ar ddydd Sadwrn y 27 o Awst. Bydd tocynnau sydd wedi eu harchebu rhwng dydd Mercher y 24 a dydd Sadwrn y 27 o Awst ar gael i’w nol o swyddfa docynnau Clwyd Theatr Cymru cyn 4.30yp ar y dydd Sadwrn, fel arall byddent ar gael o’r swyddfa docynnau ar faes yr ŵyl ar ol 5.00yp. Bydd toynnau ar gael i’w prynu ar fynediad i’r maes.

Tocynnau ar gael ar y maes

Dim ond tocynnau £19.00 fydd ar gael i’w prynu o’r swyddfa docynnau ar faes yr ŵyl, arian parod yn unig.